Skip to content
Log in

Beth yw fy lwfans cynilo personol?

Couple sort tax papers while on mobile phone and laptop

Yn y canllaw hwn

Beth yw fy lwfans cynilo personol?

Os oes gennych gyfrif cynilo, mae'n debygol y byddwch yn ennill llog. Os oes gennych gyfrif cynilo byddwch yn cael lwfans cynilo personol (PSA) yn awtomatig. 

 

Eich PSA yw faint o arian y gallwch ei ennill mewn llog heb orfod talu treth arno. Codir treth ar unrhyw log rydych yn ei ennill sy'n fwy na'ch PSA.

 

Nid yw cynilion mewn cyfrifon di-dreth, fel ISAs, yn cyfrif tuag at eich lwfans.

Sut mae'n gweithio os ydw i'n talu treth? 

Bob blwyddyn, mae'r Llywodraeth y DU yn pennu'r PSA ar gyfer y flwyddyn ariannol honno. Mae eich lwfans unigol yn dibynnu ar ba gyfradd treth incwm rydych yn ei thalu.

Eich band treth incwm

Faint y gallwch ei ennill mewn llog cyn y codir treth arno  

Cyfradd sylfaenol (20%) £1,000
Cyfradd uwch (40%) £500
Cyfradd ychwanegol (45%) £0 (Dim PSA)

 

Stori John

Mae gan John gyfrif cynilo gyda chyfradd llog o 3.50%. 
Mae'n awyddus i gynilo £3,000 tuag at wyliau gyda'r teulu dros y 12 mis nesaf.   
Ar ôl cynilo £250 bob mis am 12 mis, mae wedi cynilo £3,000 ac wedi ennill £56.88 mewn llog. 
Mae John yn y band treth cyfradd sylfaenol gan ei fod yn ennill £35,000. Mae hyn yn golygu ei fod yn gymwys ar gyfer y PSA £1,000 llawn. 
Gan fod John wedi ennill llai na £1,000 mewn llog, nid oes angen iddo dalu treth ar y £56.88. 

 

Stori Sarah

Mae gan Sarah gyfandaliad o £15,000 i brynu car cyntaf ei merch.
Mae'n awyddus i'w roi mewn cyfrif cynilo nes bod ei merch yn ddigon hŷn, oherwydd fel hyn gall ennill llog.
Mae hi wedi agor cyfrif cynilo gyda chyfradd llog o 3.50%.
Ar ôl cynilo am 12 mis, mae Sarah wedi ennill £525 mewn llog ar ei £15,000.  
Mae incwm Sarah o £70,000 yn ei rhoi yn y band treth cyfradd uwch. Mae hyn yn golygu mai ei lwfans PSA yw £500.  
Gan fod Sarah wedi ennill £525 mewn llog, mae'n rhaid iddi dalu treth ar y £25. 

Sut mae'n gweithio os nad wyf yn talu treth, neu os wyf yn ennill islaw £17,570? 

Eich lwfans personol yw £12,570 ac mae'n wahanol i'ch lwfans cynilo personol. Hwn yw swm yr incwm y gallwch ei ennill yn ddi-dreth. Os nad ydych yn defnyddio hyn i gyd mewn cyflog, pensiwn neu incwm arall, gallwch ddefnyddio'r gweddill i ennill llog yn ddi-dreth.  

 

Os yw eich incwm islaw £17,570, efallai y bydd gennych hawl i gyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion. Mae hyn yn golygu efallai y byddwch hefyd yn cael hyd at £5,000 mewn llog heb orfod talu treth arno, yn ogystal â'ch PSA. 

 

Po fwyaf y byddwch yn ei ennill o incwm arall, lleiaf fydd eich cyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion. Mae pob £1 o incwm dros eich lwfans personol yn lleihau eich cyfradd gychwynnol o gynilion £1. 

 

Stori Alex

Mae Alex yn ennill £14,000 mewn cyflog drwy weithio'n rhan-amser. Mae ganddi hefyd gyfrif cynilo y mae hi'n talu arian iddo bob mis. Eleni, mae hi wedi ennill £200 mewn llog cynilion.  

 

Defnyddir ei lwfans personol gan £12,570 cyntaf ei chyflog. Mae'r £1,430 sy'n weddill o gyflog Alex yn lleihau ei chyfradd gychwynnol o gynilon £1,430. 

 

Cyfradd gychwynnol o gynilion Alex yw £3,570 erbyn hyn. Ar y cyd â'i PSA o £1,000 byddai'n rhaid iddi ennill mwy na £4,570 cyn bod unrhyw dreth yn ddyledus iddi. Nid oes angen i Alex dalu treth ar ei chynilion, gan ei bod wedi ennill £200 mewn llog.

 

Beth sy'n cyfrif fel llog cynilion?

Mae sawl ffordd y gallwch ennill llog ar gynilion sydd i gyd yn cyfrif tuag at eich PSA. Mae'r rhain yn cynnwys unrhyw log rydych yn ei ennill o'r canlynol:

  • cyfrifon banc. cyfrifon cynilo, bondiau corfforaethol, bondiau llywodraeth a giltiau
  • cronfeydd ymddiriedolaeth
  • benthyca arian drwy wasanaethau benthyca arian (benthyca rhwng cyfoedion) 
  • ymddiriedolaethau unedol, ymddiriedolaethau buddsoddi a chwmnïau buddsoddi penagored
  • yswiriant diogelu taliadau (PPI) 
  • blwydd-daliadau sy'n daladwy am oes, a rhai contractau yswiriant bywyd

Nid yw unrhyw gynilion mewn cyfrifon di-dreth, fel ISAs, yn cyfrif tuag at eich lwfans.

Sut mae PSA yn gweithio os oes gennyf gyfrif ar y cyd? 

Fel arfer, mae llog a gaiff ei ennill o gyfrif cynilo ar y cyd yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng deiliaid y cyfrif. Mae'r llog a glustnodir i bob cyfrif unigol yn cyfrif tuag at ei PSA ei hun. 

Sut ydw i'n talu treth ar fy llog?  

Mae sut rydych yn talu treth ar eich llog yn dibynnu ar eich cyflogaeth a'ch incwm.  

 

Yn gyflogedig a/neu'n derbyn pensiwn

Bydd CThEF yn newid eich cod treth, fel eich bod yn talu treth yn awtomatig. Bydd y swm yn seiliedig ar gyfradd y dreth incwm rydych yn ei thalu.  

 

Bydd CThEF yn amcangyfrif eich cod treth yn seiliedig ar faint o log y gwnaethoch ei ennill yn y flwyddyn dreth flaenorol. 

 

Pobl nad ydynt yn drethdalwyr

Os nad ydych yn talu treth, bydd eich banc/cymdeithas adeiladu yn cysylltu â CThEF ar eich rhan ar ddiwedd y flwyddyn dreth. Bydd CThEF wedyn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi a oes angen i chi dalu treth a sut i wneud hynny. 

 

Roedd y wybodaeth yn y canllaw hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.

An illustrated percentage symbol within a circle. (Welsh)

Gweld yr holl gyfrifon cynilo

Barod i ddechrau cynilo? Cymharwch ein dewis o gyfrifon cynilo a dechrau'r broses o wneud cais.