Skip to content

Ymestyn ein partneriaeth ag Elusennau yng Nghymru

Photo of Dylan the dragon with our charity partners.

Yn yr erthygl hon

Principality yn adnewyddu ei phartneriaethau elusennol

Mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi cyhoeddi ei bod wedi adnewyddu ei phartneriaeth elusennol gyda Hosbisau Plant Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith am flwyddyn arall.
 

Cyhoeddwyd bod y ddwy elusen, sy’n darparu gofal diwedd oes rhagorol i blant a chefnogaeth i’w teuluoedd, yn bartneriaid elusennol i Principality yn 2022. Ers hynny, mae’r gymdeithas adeiladu, ei staff a’i haelodau wedi rhoi dros £250,000 i’r ddwy elusen, drwy amrywiol weithgareddau codi arian.
 

Mae Principality yn nodi estyniad i’r bartneriaeth gyda rhodd o £10,000 i bob elusen, a fydd yn eu galluogi i ddarparu cymorth ychwanegol i deuluoedd sy'n cael eu cefnogi gan yr hosbisau ar hyn o bryd ac sy’n ei chael yn anodd oherwydd yr argyfwng costau byw, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

Gair gan ein Prif Swyddog Effaith a Llywodraethu 

Dywedodd Tony Smith, Prif Swyddog Effaith a Llywodraethu Cymdeithas Adeiladu Principality: “Rydym yn falch iawn o barhau â’n partneriaeth elusennol gyda Hosbisau Plant Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith, sy’n gwneud gwaith anhygoel o ofalu am blant a’u teuluoedd ar yr adegau anoddaf. Gwyddom fod y flwyddyn hon wedi bod yn heriol iawn i'r elusennau yn ariannol, wrth iddynt barhau i ddarparu eu gwasanaethau yng nghanol costau cynyddol. Rydym yn falch o estyn ein cefnogaeth ac yn gobeithio y bydd ein rhodd diweddaraf yn helpu i greu atgofion gwerthfawr i’r teuluoedd y maent yn eu cefnogi y Nadolig hwn.” 

Sylwadau gan ein partneriaid elusennol

Dywedodd Maria Timon Samra, Prif Weithredwr Tŷ Hafan, “Rydym mor falch bod Cymdeithas Adeiladu Principality wedi penderfynu ymestyn eu partneriaeth elusennol gyda Tŷ Hafan, a’n cyd-aelod Tŷ Gobaith am flwyddyn arall, gan roi’r cyfle i ni barhau i godi arian y mae mawr ei angen. Daw’r newyddion hwn wrth i ni ddechrau ein 25ain blwyddyn a bydd yn ein helpu i wireddu ein gweledigaeth i fod yno i bob plentyn a theulu sydd angen ein cefnogaeth pan fyddant yn wynebu’r annirnadwy. Rydym yn hynod ddiolchgar am ymdrechion gwych cydweithwyr, aelodau a chwsmeriaid Principality ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyflawni mwy gyda’n gilydd dros y flwyddyn nesaf, ac at greu gwaddol parhaol i’r bartneriaeth falch hon ar gyfer Cymru gyfan.” 
 

Dywedodd Andy Goldsmith, Prif Weithredwr Hosbisau Plant Tŷ Gobaith: “Rydym wrth ein bodd bod Principality wedi ymestyn ein partneriaeth gan ei bod wedi bod yn gefnogwr gwych i’n hosbisau. Mae’r rhodd Nadolig yn anrheg ystyriol ac amserol iawn a fydd yn helpu’r teuluoedd rydym yn eu cefnogi i ymdopi â chostau a phwysau ychwanegol dros gyfnod y Nadolig. Edrychwn ymlaen at barhau â’n cydweithrediad â Chymdeithas Adeiladu Principality a diolch iddi am ei hymrwymiad a’i caredigrwydd.”

An illustrated Principality logo. (Welsh)

Ewch i'r ystafell newyddion

 Y wybodaeth ddiweddaraf am y gymdeithas.