Tai fforddiadwy newydd yn y Fenni
Yn yr astudiaeth achos hon
Sut y gwnaethom helpu
Rydym yn falch o fod wedi darparu £5 miliwn o gyllid ar gyfer cartrefi newydd ym Mhentref Llan-ffwyst, Y Fenni, a ddatblygwyd gan Candleston, is-gwmni i Melin Homes, sef cymdeithas dai.
Dywedodd Scott Rooks, Cyfarwyddwr Masnachol Candleston Homes: “Dyma oedd ein cytundeb ariannu cyntaf gyda Principality, ac er bod yr amodau economaidd yn heriol ar brydiau, buom yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn helpu i gyflawni’r cynllun. Mae wedi bod yn wych gweld y preswylwyr yn symud i’w cartrefi newydd, ac edrychwn ymlaen at gwblhau camau dau a thri dros y 12 mis nesaf. Mae’n bleser gweithio gyda phartner cyllido sydd â’r un ethos o gynhyrchu cartrefi ac adeiladu cymunedau.”
"Mae’n bleser gweithio gyda phartner cyllido sydd â’r un ethos o gynhyrchu cartrefi ac adeiladu cymunedau."
Scott Rooks, Cyfarwyddwr Masnachol Candleston Homes
Mwy am y prosiect
Mae'r datblygiad yn cynnwys cyfanswm o 69 o gartrefi preswyl a 37 o gartrefi fforddiadwy i gymunedau lleol. Wedi'u gorffen i safon fodern ac o ansawdd uchel, mae'r tai yn amrywio o eiddo dwy i bum ystafell wely, gyda thai teras, tai pâr a thai sengl.
Dywedodd Jan Quarrington, Uwch-reolwr Portffolio Principality Masnachol: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cefnogi datblygiad newydd Candleston yn y Fenni. Fel sefydliad sy’n eiddo i’r aelodau, mae helpu pobl i ffynnu yn eu cartrefi wrth wraidd yr hyn a wnawn, ac mae The Grove yn cefnogi hynny, gan ddarparu cartrefi fforddiadwy a marchnad agored newydd i gymunedau yn y Fenni a’r cyffiniau.”
- Astudiaeth achos
- Newyddion masnachol