Skip to content

Principality yn darparu £6m i sefydliad dielw ar gyfer tai fforddiadwy newydd

Builder driving truck of soil

Yn yr erthygl hon

Cefnogi tai fforddiadwy

Mae Principality Masnachol wedi darparu £6m o gyllid i gefnogi cymdeithas tai ddielw i adeiladu dros 30 o gartrefi effeithlon o ran ynni, cymdeithasol a fforddiadwy newydd, gyda’r nod o adeiladu cymdogaethau cynaliadwy yng Nghymru.

Mae cangen fasnachol cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru wedi darparu cyllid hanfodol i Fro Myrddin a aeth tuag at adeiladu 30 o gartrefi fforddiadwy i gael effaith gadarnhaol ar y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu gyda’r nod o leihau digartrefedd a gwella ansawdd bywyd yn gyffredinol.

Mae Principality Masnachol yn benthyca ledled Cymru a Lloegr, gan ddarparu cyllid ar gyfer cynlluniau buddsoddi a datblygu yn y sectorau masnachol a phreswyl, gan gynnwys cefnogi cymdeithasau tai.

Wrth sôn am y bartneriaeth, dywedodd Richard Wales, Cyfarwyddwr Benthyca Masnachol Cymdeithas Adeiladu Principality: “Mae’n gymaint o fraint gweithio gyda sefydliad sy’n ymroddedig i wella bywydau pobl ledled Cymru drwy ddarparu cartrefi fforddiadwy a chymorth ymarferol. Gwyddom y bydd y cyllid yn helpu i gryfhau eiymdrechion i greu cymdogaethau cynaliadwy a fydd yn caniatáu i’w trigolion ffynnu.”

Ynglŷn â Chymdeithas Tai Bro Myrddin

Mae Cymdeithas Tai Bro Myrddin, sy’n bartner hirsefydlog i Principality Masnachol, yn darparu cymorth cysylltiedig â thai i bobl ledled Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Wedi’i lleoli yng Nghaerfyrddin, mae’r gymdeithas yn cynnal tua 1,065 o gartrefi ac yn darparu ystod eang o wasanaethau i’w thrigolion a rhanddeiliaid eraill – mae cartrefi’r sefydliad yn cynnwys fflatiau a thai unigol, tai gwarchod, a chartrefi â chymorth sy’n galluogi pobl i fyw’n annibynnol.

Dywedodd Rhodri Jones, Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, Bro Myrddin: “Mae’r galw am dai fforddiadwy yng Nghymru yn uchel, a bydd ond yn cynyddu, felly mae’n hanfodol ein bod yn parhau i fuddsoddi yn natblygiad cartrefi newydd. Rydym yn ddiolchgar am y gymorth ariannol gan Principality ac yn gwerthfawrogi’r bartneriaeth rydym wedi’i sefydlu dros nifer o flynyddoedd. Rydym yn edrych ymlaen at weld ein datblygiadau’n mynd rhagddynt wrth i ni barhau i gyfoethogi bywydau pobl drwy gartrefi cynaliadwy o ansawdd da.”