Adeiladu Cartrefi o Safon yng Nghaint
Yn yr astudiaeth achos hon
Astudiaeth achos - fideo
Sut y gwnaethom ni helpu
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae Fernham Homes yn ddatblygwr cartrefi eithriadol yng Nghaint gydag ymrwymiad i ansawdd a'r safonau cynaliadwyedd uchaf.
Dros y 6 blynedd diwethaf, mae Principality Masnachol wedi darparu cyllid datblygu preswyl sydd wedi cefnogi twf a datblygiad Fernham Homes, gan gynnwys datblygiad mawreddog West Malling a datblygiad o 19 o gartrefi yn Sissinghurst.
Mae datblygiad West Malling yn gymuned unigryw o 10 o gartref moethus yn amrywio o bedair i bum ystafell wely, pob un wedi'i ysbrydoli gan ddeunyddiau, lliwiau ac arddull lleol. Gyda buddsoddiad Principality Masnachol o dros £6 miliwn, mae'r prosiect hwn ar fin dod yn garreg filltir yn y gymuned leol.
Dywedodd James Davies, Cyfarwyddwr Cyllid Fernham Homes: “Roeddem yn chwilio am bartneriaid ariannu sy’n deall ein busnes a chymhlethdod y datblygiad. Yr hyn rydw i wedi’i fwynhau am weithio gyda Principality Masnachol yw eu bod yn hawdd mynd atynt, ac yn hawdd i ni sgwrsio am ein hystod o safleoedd”.
Mwy am y prosiect
Yn ogystal ag arbenigo mewn adeiladu tai i deuluoedd yng Nghaint, mae Fernham Homes hefyd yn adeiladu ar gyfer y gymuned, gan adeiladu neuaddau pentref, tai fforddiadwy a pharciau. Maent yn gweithio gyda'r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt ac mae'r tîm yn gwneud llawer o waith gydag elusennau lleol.
Dywedodd Gareth Reading, Uwch-reolwr Portffolio yn Principality Masnachol: “Mae ymrwymiad Fernham Homes i adeiladu tai y gall eu cwsmeriaid fod yn falch o’u galw’n gartref yn un o’r rhesymau rydym yn awyddus i weithio gyda nhw gan ei fod yn cyd-fynd â’n gweledigaeth ein hunain i fwy o bobl fyw yn y cartref y maent yn ei ddymuno. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda nhw i gefnogi eu nodau yn rhanbarth Caint."
- Astudiaeth achos
- Newyddion masnachol