Cefnogi adeilad treftadaeth Fictoraidd wedi'i adfywio yng Nghaerdydd
Yn yr astudiaeth achos hon
Sut y gwnaethom helpu
Gan weithio gyda The Maltings ers dros 20 mlynedd, mae’r prosiect buddsoddi masnachol hwn yn unigryw ac yn llawn hanes.
Wedi’i leoli rhwng canol dinas Caerdydd a Bae Caerdydd, roedd y safle’n arfer bod yn fragdy a adeiladwyd ym 1887 ar gyfer Cardiff Malting Co. Yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £7 miliwn rhwng 2010 a 2019, mae’r adeilad rhestredig Gradd 2 hwn bellach yn gweithredu fel Space2B yn The Maltings gan gynnig mannau gweithio cyfoes ar gyfer dros 100 o fusnesau.
Mae Principality wedi cefnogi’r datblygiad drwy gyflenwi cyllid buddsoddi masnachol.
Dywedodd Gareth Oram: "Gyda chefnogaeth cyllid Principality, rydym wedi llwyddo i drawsnewid The Maltings yn ganolbwynt bywiog i fusnesau yng Nghaerdydd. Mae'r gwaith adnewyddu wedi ein galluogi i gadw cymeriad hanesyddol yr adeilad gan greu man gwaith modern, hyblyg sy'n diwallu anghenion entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig heddiw. Rydym yn falch o ddarparu amgylchedd deinamig ar gyfer dros 100 o fusnesau, gan gefnogi eu twf a'u hymdeimlad o gymuned."
Ysgrifennodd Nick Williams, diweddar Gadeirydd The Maltings, y canlynol mewn neges e-bost at Gareth yn 2018 ac mae’r teimlad yn dal i fod yr un mor ddilys heddiw ag yr oedd bryd hynny, “Ni fyddai wedi bod yn bosibl darparu cyllid i’r Maltings drosi ei hun o fod yn fusnes a ddechreuodd yn y 1880au i fod ar flaen y gad o ran darparu gofod yn y 2020au heb gefnogaeth ddiwyro gan Gymdeithas Adeiladu Principality sydd wedi aros yn gyson drwy lwyddiannau ac aflwyddiannau'r cylchoedd busnes.
I mi, cysondeb darpariaeth cyfleusterau bancio yw'r sylfaen ar gyfer gallu cynllunio ymlaen llaw a thyfu'n briodol. Rwyf fi a fy nghydweithwyr yn diolch iddiyn nhw".
Mwy am y prosiect
Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd yn berffaith â nod Principality i gefnogi cymunedau ffyniannus.
Mae gofod cydweithio, swyddfeydd a digwyddiadau ac ystafelloedd cyfarfod ar gael ar gyfer busnesau newydd a busnesau bach a chanolig. Mae cyfleuster storio dogfennau diogel hefyd yn cael ei reoli gan The Maltings. Mae tŷ coffi a champfa ar y safle wedi'u hychwanegu fel buddion i aelodau gan fod y safle wedi parhau i ffynnu. Ac, fel cynllun ecogyfeillgar, mae gan The Maltings fws gwennol i ganol y ddinas ac, yn fwy diweddar, mae wedi ychwanegu gorsafoedd gwefru ceir trydan.
Dywedodd Stephen Ryan, Uwch-reolwr Portffolio Principality Masnachol: “Rydym wedi darparu cyllid i The Maltings a busnesau cysylltiedig eraill Nick ers dros 20 mlynedd bellach. Mae’r berthynas a feithrinwyd rhwng Nick a’r Gymdeithas dros y cyfnod hwnnw wedi gweld ein perthynas yn tyfu ac yn cryfhau gyda’r tîm rheoli presennol i sicrhau bod ei waddol yn parhau. Rydym yn falch iawn o weld y busnes yn parhau i ffynnu.”
- Newyddion masnachol