Skip to content

Cronfa Datblygu Gwyrdd Principality yn gwella datblygiad y glannau

quad 500

Yn yr astudiaeth achos hon

Sut wnaethom ni helpu

Mae Principality Masnachol yn falch o gefnogi Quad Projects gyda’r prosiect newydd hwn o chwe thŷ a dwy uned swyddfa ar leoliad ar lan y dŵr yn Kingston Upon Thames.
Ariennir y cynllun drwy Gronfa Datblygu Gwyrdd Principality Masnachol sy’n darparu cymhellion ariannol i ddatblygwyr tai sy’n darparu datblygiadau tai carbon isel i ddi-garbon.

Mae Principality yn darparu ychydig o dan £6 miliwn i gefnogi prynu safle a datblygu'r eiddo.
Dywedodd Nuggy Lianos, Quad Projects: “Roedd Quad wrth ei fodd bod Principality wedi gallu cefnogi’r cynllun cyffrous hwn ar lan yr afon. Cawsom ein denu’n arbennig at y telerau a’r cymhellion manteisiol a gynigir drwy’r Gronfa Datblygu Gwyrdd. Mae Quad a Principality yn cydweithio i ddarparu datblygiadau cynaliadwy sy'n effeithlon o ran ynni ledled Llundain.”

Mwy am y prosiect hwn

Mae'r tai yn dai deulawr gyda dim ond y llawr uchaf yn weladwy o'r ffordd. Bydd y llawr uchaf yn cynnwys y prif ardal fyw, gan gynnwys y lolfa, yr ardal fwyta, y gegin ac un ystafell wely.
Bydd y llawr gwaelod isaf yn cynnwys dwy ystafell wely ychwanegol a gardd gwrt isel. Bydd yr adeiladau yn cynnwys toeau gwyrdd i wella bioamrywiaeth, yn ogystal â phaneli solar ffotofoltaig ar gyfer cynhyrchu pŵer, gwresogi gofod effeithlon iawn a phwyntiau gwefru ceir trydan.

Dywedodd Chad Griffiths, Uwch-reolwr Portffolio yn Principality Masnachol:
“Rwy’n falch iawn bod Principality Masnachol wedi gallu cefnogi’r datblygiad arloesol hwn ar gyfer ein cleient, Quad Projects. Bydd gan y tai nodweddion carbon isel rhagorol a byddant yn ailddatblygu safle tir llwyd nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol i ddarparu cartrefi y mae mawr eu hangen.”