Principality Masnachol yn ariannu cartrefi fforddiadwy newydd ledled Rhondda Cynon Taf
Yn yr erthygl hon
Principality Masnachol yn cefnogi Cymdeithas Tai Trivallis
Mae Cymdeithas Tai Trivallis wedi cael £25M o gyllid gan Principality Masnachol i gefnogi datblygiad cartrefi newydd yn Rhondda Cynon Taf a’r cyffiniau, gan fynd i’r afael â’r galw cynyddol am dai yn y rhanbarth. Yn ddiweddar, lansiodd Trivallis strategaeth gorfforaethol wedi’i diweddaru, sy’n amlinellu uchelgeisiau dros y 5 mlynedd nesaf i wella llesiant cymunedau a’r bobl ynddynt er mwyn iddynt allu ffynnu.
Roedd Trivallis, a elwid gynt yn RCT Homes, yn cyflogi dros 400 o staff ac yn darparu cartrefi i 25,000 o bobl ar draws Rhondda Cynon Taf a Bae Caerdydd, ochr yn ochr â rheoli bron i 11,000 o gartrefi. Nod y gymdeithas dai yw darparu tai diogel, cynnes a fforddiadwy i'r rhai sydd mewn angen mawr.
Mae Trivallis yn sefydliad Cydfuddiannol Cymunedol, sy’n eiddo i denantiaid ac sydd wedi’i angori’n lleol – sy’n cydweithio â’i bartneriaid i gael effaith gadarnhaol ar lesiant y gymuned ac unigolion.
Bydd y bartneriaeth newydd gyda Principality Masnachol, cangen fasnachol Cymdeithas Adeiladu Principality, yr un fwyaf yng Nghymru, a’r chweched fwyaf yn y DU, yn cefnogi Trivallis yn ei strategaeth i wneud y defnydd gorau o’i heiddo presennol ac archwilio cyfleoedd adeiladu newydd i greu mwy o dai fforddiadwy.
Mae Principality Masnachol yn benthyca ledled Cymru a Lloegr, gan ddarparu cyllid ar gyfer cynlluniau buddsoddi a datblygu yn y sectorau masnachol a phreswyl, gan gynnwys cefnogi cymdeithasau tai.
Mae’r datblygiad hwn yn dilyn cwblhau’r prosiect ar raddfa fawr, The Mill, yng ngorllewin Caerdydd, lle cefnogodd y tîm Masnachol ariannu 800 o gartrefi o fewn pentref trefol newydd bywiog.
Mwy am y bartneriaeth
Wrth sôn am y bartneriaeth â Trivallis, dywedodd Richard Wales, Cyfarwyddwr Benthyca Masnachol Cymdeithas Adeiladu Principality: “Mae’n bleser pur cael y cyfle i weithio gyda Trivallis, lle rydym yn falch o gynorthwyo gyda’i uchelgeisiau datblygu ac adfywio i gynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen ar frys yn ardal Rhondda Cynon Taf.
“Nid mater o adeiladu cartrefi yn unig yw’r cyllid hwn; mae'n ymwneud â rhoi'r sylfaen sydd ei hangen ar bobl i adeiladu eu dyfodol. Yn Principality, rydym yn credu mewn darparu cartrefi gwell i bobl sy’n diwallu eu hanghenion, a thrwy weithio gyda Trivallis, rydym yn helpu i greu newid parhaol, cadarnhaol ar gyfer cymunedau ac unigolion fel ei gilydd.”
Dywedodd Lisa Pinney, Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Trivallis: “Mae cymuned wrth galon yr hyn a wnawn, ac rydym yn ddiolchgar iawn bod gennym gefnogaeth sefydliad y mae ei werthoedd craidd yn cyd-fynd mor agos â’n rhai ni. Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Principality a fydd yn ein helpu i barhau â’n hymdrechion i ddarparu tai fforddiadwy a chynaliadwy, gyda’r nod o adeiladu cymunedau cryf a gwella llesiant y rhai sy’n byw ynddynt.”
- Newyddion masnachol