Dulliau modern o adeiladu safle datblygu ym Mhowys
Yn yr astudiaeth achos hon
Sut y gwnaethom helpu
Rydym yn falch o fod wedi cefnogi Morgan Homes i ddatblygu safle datblygu mwyaf Powys. O ganlyniad i’r cyllid a ddarparwyd gennym, bydd Morgan Homes yn adeiladu 110 o gartrefi newydd, gan gynnwys cymysgedd o dai a byngalos effeithlon o ran ynni gyda 2, 3 a 4 ystafell wely.
Dywedodd Matthew Morgan, Cyfarwyddwr yn Morgan Homes: “Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cartrefi sy’n diwallu anghenion prynwyr, gan gynnwys brwydro yn erbyn costau byw o ddydd i ddydd. Drwy ddarparu cartrefi gradd A gan ddefnyddio technoleg adnewyddadwy, bydd yr anheddau newydd ym Mrynygroes mor economaidd i’w rhedeg â phosibl.”
"Drwy ddarparu cartrefi gradd A gan ddefnyddio technoleg adnewyddadwy, bydd yr anheddau newydd ym Mrynygroes mor economaidd i’w rhedeg â phosibl.”
Matthew Morgan, Cyfarwyddwr Morgan Homes
Mwy am y prosiect hwn
Adeiladwyd y cartrefi gan ddefnyddio Dulliau Adeiladu Modern (MMC) i gyflawni gradd EPC A, a gwnaethant elwa o fenter Cronfa Werdd Principality. Nod y Gronfa Werdd yw ysgogi ffocws ar greu cartrefi cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae'r cartrefi'n cynnwys insiwleiddio lefel uchel, gyda Phympiau Gwres Ffynhonnell Aer, a solar ffotofoltaig yn cael ei ddefnyddio ar draws y datblygiad.
Dywedodd James Ford, Uwch-reolwr Cysylltiadau Principality Masnachol: “Fel benthyciwr, mae Principality Masnachol wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi cynaliadwy, gan helpu mwy o unigolion i gael lle i’w alw’n gartref. Mae’n bleser cefnogi Morgan Homes ar ei brosiect yn Ystradgynlais, sy’n dod â chartrefi o ansawdd ac amgylcheddol gynaliadwy i’r ardal.”
- Newyddion masnachol
- Astudiaeth achos