Benthyciad nodedig o £50 miliwn i Pobl
Yn yr astudiaeth achos hon
Sut y gwnaethom helpu
Rydym yn falch iawn o fod wedi darparu benthyciad nodedig o £50 miliwn ar gyfer y darparwr tai cymdeithasol nid-er-elw yng Nghymru, Grŵp Pobl. Bydd y benthyciad yn cynorthwyo ei uchelgais i greu 10,000 o gartrefi newydd fforddiadwy sy'n effeithlon o ran ynni ledled Cymru y mae mawr eu hangen erbyn 2030.
Dywedodd Amanda Davies, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Pobl: “Mae’r galw am gartrefi fforddiadwy o safon yng Nghymru yn uchel a bydd ond yn parhau i dyfu, felly rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth yr ydym yn ei chael gan Principality, a fydd yn helpu Pobl tuag at ein huchelgais o greu 10,000 o gartrefi newydd y ddegawd hon. Rydym yn gwneud cartref effeithlon o ran ynni ac lle gwych i fyw yn normal newydd, gan adeiladu a buddsoddi mewn lleoedd hardd lle mae pobl a chymunedau'n ffynnu ac yn falch o'u galw'n gartref.”
"Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth yr ydym yn ei chael gan Principality, a fydd yn helpu Pobl tuag at ein huchelgais o greu 10,000 o gartrefi newydd y degawd hwn."
Amanda Davies, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Pobl
Mwy am y prosiect hwn
Mae'r benthyciad yn dangos ein pwyslais ar greu tai fforddiadwy a chynaliadwy o safon. Bydd yr eiddo’n cael eu hadeiladu gyda’r dechnoleg werdd a’r deunyddiau adeiladu diweddaraf, yn unol â safon Sero Net Pobl.
Ar draws y datblygiadau hyn, bydd dull deiliadaeth gymysg Pobl yn caniatáu amrywiaeth o opsiynau perchnogaeth, gan gynnwys rhentu fforddiadwy, gwerthu’n llwyr a rhanberchenogaeth, gan helpu mwy o bobl i gael y cartref y maent yn ei ddymuno mewn lleoedd gwych y mae pobl eisiau byw ynddynt.
Dywedodd Julie-Ann Haines, Prif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu Principality: “Rydym yn falch iawn o allu cefnogi’r gwaith o greu cartrefi newydd yng Nghymru gyda’r benthyciad £50m hwn. Mae helpu mwy o unigolion i fod â lle i’w alw’n gartref yn bwyslais allweddol i’n busnes, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Pobl, sy’n rhannu ein gweledigaeth o greu cartrefi o ansawdd uchel lle gall pobl ffynnu, gan gadw ffocws ar ddeunyddiau ac ynni cynaliadwy i ddiogelu’r amgylchedd.”
- Newyddion masnachol
- Astudiaeth achos