Eiddo hanesyddol ar stryd fawr Dinbych-y-pysgod
Yn yr astudiaeth achos hon
Sut y gwnaethom helpu
Rydym yn falch o fod wedi darparu £700,000 i Alcann Limited i gynorthwyo gyda’r buddsoddiad hirdymor a phrynu eiddo hanesyddol yng nghanol Dinbych-y-pysgod. Ar hyn o bryd, mae'r eiddo yn gartref i Fferyllfa Boots, sydd wedi bod yng nghanol Stryd Fawr Dinbych-y-pysgod ers bron i 100 mlynedd.
Dywedodd Alcann Ltd: “Rydym yn falch iawn o gynnwys yr adeilad gwych hwn yn ein grŵp ystadau preifat. Mae ein profiad o ymdrin â thîm Principality a’i hymgynghorwyr wedi bod o’r radd flaenaf a diolch yn fawr iawn i’w tîm ymroddedig am ein cynorthwyo gyda’r trafodiad hwn.
"Mae ein profiad o ymdrin â thîm Principality a’i hymgynghorwyr wedi bod o’r radd flaenaf."
Alcann Ltd
Mwy am y prosiect
Mae'r eiddo yn rhestredig Gradd II, ac yn frith o hanes a chwedl. Mae'n cynnwys drws yn yr islawr sy'n arwain at dwnnel canoloesol â wal gerrig, y credir ei fod yn dyddio'n ôl i'r 15fed ganrif. Mae’r twnnel yn croesi o dan y Stryd Fawr ac yn gorffen mewn ystafell sengl y credir ei bod wedi’i lleoli o dan fynwent Eglwys y Santes Fair.
Mae llawer o haneswyr yn credu, ar 2 Mehefin, 1471, bod Harri Tudur, pan oedd yn 14 oed, wedi mynd i guddio yn Seler tŷ Thomas White, y credir ei fod ar dir Eglwys y Santes Fair, cyn ffoi i Lydaw ar gwch o Harbwr Dinbych-y-pysgod. Mae plac glas ar wal allanol yr eiddo i gadarnhau y credir bod yr ystafell ar ddiwedd y twnnel yn hen seler tŷ Thomas White.
Dywedodd Charlotte Vick, Rheolwr Cysylltiadau Principality Masnachol: “Yma yn Principality Masnachol, roeddem yn falch iawn o allu cynorthwyo benthyciwr newydd i brynu’r hyn sy’n eiddo lleol da i’r Gymdeithas mewn tref arfordirol ffyniannus.”
- Newyddion masnachol
- Astudiaeth achos