Skip to content

Tai Hafod yn cael £25 miliwn o gyllid i adeiladu tai fforddiadwy

hafod

Yn yr astudiaeth achos hon

Sut wnaethom ni helpu

Mae Tai Hafod, sefydliad dielw sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi sicrhau cyfleuster benthyciad o £25 miliwn gan Principality Masnachol, i gefnogi’r gwaith o adeiladu 300 o gartrefi fforddiadwy newydd dros y pum mlynedd nesaf gyda’r nod o adeiladu cymunedau cryf yng Nghymru.

Bydd y bartneriaeth newydd gyda Principality Masnachol yn datblygu dros y tair blynedd nesaf gyda’r cyllid yn helpu i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd y mae mawr eu hangen.

Dywedodd Chris Judson, Cyfarwyddwr Cyllid, Buddsoddiadau a Datblygu dros dro Hafod: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau cyllid gan Gymdeithas Adeiladu Principality. Roedd y trafodiad yn ddidrafferth iawn; rydym yn ddiolchgar i Principality am hyn ac am gefnogaeth ein cynghorwyr trysorlys, cyfreithwyr Centrus a Devonshires. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Principality yn y dyfodol, a darparu cartrefi a chymunedau dymunol a chynaliadwy ar draws de Cymru.”

Mwy am y prosiect hwn

Wedi’i sefydlu ym 1968, mae Hafod yn cynnig tai fforddiadwy o ansawdd uchel ac adnoddau i bobl helpu i gynnal eu llesiant a’u hannibyniaeth. Gan weithio ar draws saith ardal awdurdod lleol yng Nghymru gyda 1,250 o gydweithwyr, mae Hafod yn helpu dros 16,000 o bobl bob blwyddyn drwy gymorth tai ac iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae prosiectau diweddar Hafod yn cynnwys ailddatblygu Haydock House yn y Barri, safle Ysbyty Lansdowne Caerdydd, a Pharc Llanilid yn Rhondda Cynon Taf – y mae pob un wedi’i wneud er mwyn darparu tai fforddiadwy hanfodol yn yr ardaloedd hyn ac adfywio’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn gadarnhaol.

Wrth sôn am y bartneriaeth gyda Hafod, dywedodd Sarah Lavender – Rheolwr Cysylltiadau Cymdeithas Adeiladu Principality: “Rydym yn falch iawn o gefnogi ymdrechion parhaus Tai Hafod i wella bywydau pobl ledled Cymru. Mae’n fraint ac yn bleser gweithio gyda sefydliad sydd wedi hen ennill ei blwyf ac y mae ei fentrau’n cyd-fynd mor agos â’n un ni. Bydd y cyllid hwn yn helpu i wella’r angen am dai fforddiadwy yn ne Cymru, ac yn meithrin twf cryf o ran tai fforddiadwy yn ne Cymru, yn ogystal â meithrin twf cymunedau cryf.”