Skip to content

700 o dai fforddiadwy gyda Chymdeithas Tai Caredig

Jan Quarrungton Commercial

Yn yr astudiaeth achos hon

Sut y gwnaethom helpu

Rydym yn falch o fod wedi cwblhau cytundeb gyda Caredig (a arferai fod yn Family Housing), Cymdeithas Tai gwerth £26m yn Abertawe, i’w helpu i gyrraedd ei nod o adeiladu 700 o gartrefi fforddiadwy newydd yn ne Cymru erbyn 2030.

 

Dywedodd Marcia Sinfield, Prif Weithredwr Caredig: “Rydyn ni'n gwybod bod Principality yn rhannu ein hangerdd a’n gwerthoedd i gefnogi’r ddarpariaeth o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o barhau, a chryfhau ymhellach, ein perthynas â chymdeithas adeiladu fwyaf Cymru.”

“Rydyn ni'n gwybod bod Principality yn rhannu ein hangerdd a’n gwerthoedd i gefnogi’r ddarpariaeth o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru."

Marcia Sinfield, Prif Weithredwr Caredig

Mwy am y prosiect hwn

Mae Caredig yn rheoli dros 2,897 o gartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel, gan ddarparu ystod o wasanaethau, gyda phwyslais craidd ar dai cymdeithasol.  Yn sefydliad sy'n canolbwyntio ar gymdeithas, mae gan Caredig genhadaeth glir; “creu cymunedau cryf, bywiog a gwydn, lle gall pobl fyw bywydau egnïol, llawn boddhad - yn annibynnol ac yn ddiogel”.

 

Dywedodd Jan Quarrington, Uwch-reolwr Portffolio Tai Fforddiadwy yn Principality Masnachol: “Rydym wrth ein bodd yn cefnogi Caredig ar y fenter hon. Fel busnes rydym yn ymdrechu i greu cartrefi gwell i’r rhai yn ein cymunedau, gan roi lle i deuluoedd ffynnu. Mae’n wych ein bod yn gallu darparu’r arian hwn i Caredig sy’n rhannu ein gwerthoedd.”

Eisiau gwybod mwy?

Mae ein rheolwyr perthynas yma i'ch helpu.