Datblygiad preswyl yn ninas Tyddewi
Yn yr astudiaeth achos hon
Sut y gwnaethom helpu
Gan weithio gyda Life Property Group ers dros 6 mlynedd, Llys Menevia yw trydydd prosiect Principality Masnachol gyda’r datblygwr sydd wedi’i leoli yn ne Cymru. Mae’r datblygiad preswyl hwn o 11 eiddo dafliad carreg o brif stryd siopa Tyddewi a 5 munud ar droed o Gadeirlan Tyddewi. Darparodd Principality Masnachol bron i £4miliwn o fenthyciad datblygu preswyl i gefnogi’r prosiect.
Dywedodd Daniel Madge, Rheolwr Gyfarwyddwr Life Property Group:
“Yn Life Property Group, rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i ddarparu cartrefi pwrpasol o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion unigryw dinasoedd hanesyddol fel Tyddewi. Mae ein partneriaeth â Principality Masnachol wedi bod yn allweddol i gyflawni hyn, ac rydym yn hyderus y bydd Llys Menevia yn dyst i’n hymrwymiad i ragoriaeth a chynaliadwyedd.”
Mwy am y prosiect hwn
I ateb y galw lleol, mae gan Llys Menevia gymysgedd o fflatiau un ystafell wely a chartrefi teulu 4 a 5 ystafell wely.
Mae'r eiddo sy'n ecogyfeillgar yn defnyddio pympiau gwres ffynhonnell aer, paneli solar, gwefru trydan, inswleiddio uchel ac maent wedi cael EPC gradd A. Mae’r ymrwymiad hwn i ddatblygu cynaliadwy wedi golygu bod yr eiddo wedi’i ariannu drwy Gronfa Werdd Principality Masnachol.
Mae'r gwaith adeiladu bellach wedi'i gwblhau. Agorodd y cartref arddangos ym mis Tachwedd gyda'r cartref cyntaf eisoes wedi'i werthu.
Dywedodd Chad Griffiths, Uwch-reolwr Portffolio Principality Masnachol:
“Dyma ddatblygiad arall o ansawdd uchel gan Life Property Group sydd wedi darparu cymysgedd amrywiol o gartrefi newydd yn Nhyddewi. Rydym wedi bod yn arbennig o falch o gefnogi prosiect sy’n cyd-fynd â’n nod strategol ein hunain o gartrefi mwy cynaliadwy.”
- Astudiaeth achos
- Newyddion masnachol