Datblygiad tai nodedig yng Nghaerdydd wedi’i gwblhau ar ôl 10 mlynedd
Yn yr erthygl hon
Sut y gwnaethom ni helpu
Mae gwaith wedi'i gwblhau ar gam olaf datblygiad The Mill, gyda 157 o gartrefi olaf y fenter 800 o gartrefi wedi'u cwblhau erbyn hyn.
Mae’r datblygiad gwerth £150m, sydd wedi ymestyn dros 10 mlynedd, wedi’i ariannu gan Principality Masnachol, a’i gyflawni mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Tirion Homes, Lovell a Chymdeithas Tai Cadwyn.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, Jayne Bryant: “Rwy'n falch y bu modd i ni roi buddsoddiad ar ffurf benthyciad gwerth £8m o gymorth cyllido i ddatblygiad The Mill.
"Rydym yn gwybod bod galw mawr am dai o ansawdd uchel yn yr ardal ac mae'n wych, drwy ein partneriaeth, y bu modd i ni roi bywyd newydd i'r safle a chyflawni ar ran y gymuned"
Dywedodd David Ward, Prif Swyddog Gweithredol Tirion Homes: “Rydym wrth ein boddau i ddathlu cwblhau cam olaf datblygiad The Mill. Mae'r prosiect hwn yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein tîm a phartneriaid dros y 12 mlynedd ddiwethaf sydd wedi ymdopi â llawer o heriau yn llwyddiannus ar hyd y ffordd, yn fwyaf nodedig pandemig Covid-19.
"Mae The Mill bellach yn lle bywiog, cynaliadwy sy'n caniatâu i aelwyddydd ffynnu, yn ogystal â bod yn rhan o'r gwaith adfywio parhaus sy'n cael ei wneud ledled Caerdydd"
“Mae'r galw uchel am y cartrefi o ansawdd hyn yn pwysleisio pwysigrwydd ein cenhadaeth i ddarparu tai fforddiadwy. Fel sefydliad, rydym yn awyddus i roi mwy o ddewis i'r bobl hynny nad oes modd iddynt, neu nad ydynt yn dymuno, prynu eu cartref eu hunain. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth diwyro Cymdeithas Adeiladu Principality, Llywodraerth Cymru, Cadwyn, a Lovell. Rydym yn falch o fod wedi cyrraedd y cyflawniad sylweddol hwn ac edrychwn ymlaen at barhau â'n hymdrechion iadeiladu mwy o gymunedau cynaliadwy yng Nghymru.”
Dywedodd James Duffett, Rheolwr-gyfarwyddwr Rhanbarthol Lovell: "The Mill yw ein datblygiad blaenllaw yng Nghaerdydd, yn cyfuno'r gorau o'n partneriaethau a'n arbenigedd gwerthu. Rydym wedi adeiladu pob cartref â gofal a sylw at fanylion, gan gadw trigolion y dyfodol mewn cof pob cam o'r ffordd, ac rydym bellach yn hynod falch o fod wedi cwblhau'r cam olaf ac wedi darparu 800 o dai o ansawdd uchel.yng Nghaerdydd.
"Mae'r bartneriaeth lwyddiannus hon rhyngom ni, Tirion, Cadwyn, Cymdeithas Adeiladu Principality a Llywodraeth Cymru wedi trawsnewid safle'r hen felin bapur yn gymuned fywiog, gyda chartrefi y gall pobl fod yn falch ohonynt am genedlaethau i ddod"
Mwy am y prosiect
Ar hen safle melin bapur Arjo Wiggins adeiladwyd hanner yr 800 o gartrefi yn benodol ar gyfer rhent fforddiadwy trwy Tirion Homes, gan gynnwys 75 ar gael fel tai cymdeithasol. Gwerthwyd cyfanswm o 358 eiddo ar y farchnad agored gan Lovell.
bellach wedi'u cwblhau, mae'r portffolio terfynol o 157 o gartrefi fforddiadwy yn cynnwys cymysgedd o fflatiau a thai, a reolir gan Gymdeithas Tai Cadwyn, ac mae pob un ohonynt eisoes wedi'u rhentu i denantiaid newydd.
Mae'r prosiect nodedig wedi trawsnewid yr hyn a oedd yn safle adfeiliedig yn gymuned newydd gynaliadwy i Gaerdydd. Yn ogystal â'r cartrefi newydd a grëwyd, mae'r gwaith seilwaith a wnaed yn cynnwys ffyrdd newydd, traphont a gwelliannau i amddiffynfeydd rhag llifogydd yn yr ardal. Mae cyfanswm o bum uned fasnachol hefyd ar gael i'w rhentu, a fydd yn cael eu rheoli gan Tirion Homes.
Mae'r safle hefyd wedi datblygu parc glan yr afon sy'n cynnwys mannau gwyrdd, ardal chwarae i blant a llwybrau beicio. Mae cynlluniau pellach hefyd ar y gweill i adeiladu ar hyn a darparu cyfleusterau ychwanegol fel rhan o'r ganolfan sy'n cynnwys canolfan gymdogaeth, a llwybrau bysiau gyda chysylltiadau â chanol y ddinas.
Dywedodd Richard Wales, Cyfarwyddwr Benthyca Masnachol Cymdeithas Adeiladu'r Principality: "Gyda chwblhau cam olaf datblygiad The Mill yn llwyddiannus, rydym yn hynod gyffrous i weld y gwaith o drawsnewid safle melin bapur a oedd gynt yn segur yn gymuned fywiog a chynaliadwy i Gaerdydd.
Mae'r garreg filltir hon yn cynrychioli ein hymrwymiad i wireddu gobeithion a dyheadau bywyd mewn modd sy'n gweithio i bawb. Drwy helpu pobl i gael eu heiddo eu hunain, ariannu tai cynaliadwy a fforddiadwy, a chefnogi creu cartrefi sy'n bodloni anghenion cenedlaethau'r dyfodol, rydym yn cyfrannu at ddyfodol gwell i gymunedau lleol
- Newyddion masnachol
- Astudiaeth achos